Newyddion Diweddaraf oddi wrth:

Y Swyddfa Ganolog
Aelodau
Pwyllgor Cymru

Y wefan hon?

O’r diwedd yr ydym wedi llwyddo i’w diweddaru, ac yr ydym yn bwriadu ei gwneud yn adnodd defynddiol i’n holl aelodau.

Ein bwriad yw [a] eich hysbysu chi a’r cyhoedd yn gyffredinol am newyddion a gweithgareddau Making Music, a [b] cynnig adnodd ychwanegol ar eich cyfer i hyrwyddo eich gweithgareddau a chysylltu gyda ni/aelodau eraill. Felly os oes unrhyw beth yr hoffech ei weld ar y wefan, neu os oes gennych unrhyw sylwadau eraill, byddem yn falch o glywed gennych.

Meddai Sheena, ein cadeirydd:

SWYDDOG DATBLYGU RHANBARTHOL CYMREIG

Bydd llawer ohonoch yn cofio’r Swyddogion Hyfforddi a Datblygu a gawsom yn y gorffennol a’r prosiectau a’r digwyddiadau a drefnwyd mor llwyddiannus ganddynt ar gyfer aelodau MMW. Daeth y prosiect dwy flynedd diweddaraf i ben ymron i ddeunaw mis yn ôl ac mae Pwyllgo’r MMW yn cydweithio’n glos gyda swyddfa ganolog Making Music yn Llundain i sicrhau cyllid digonol i’n galluogi i gyflogi Swyddog Datblygu Cymreig a fydd, gobeithio, yn gweithio gyda ni am o leiaf dridiau yr wythnos ar amryw brosiectau, gan gynnwys cyswllt gyda’n haelodau a rhyngddynt, gweithgareddau lobïo, prosiectau ar gyfer ieuenctid Cymru, ac amrywiol bethau eraill.

CYFARFODYDD CYSWLLT CYMDEITHASAU MMW

Ni allaf or-bwysleisio pwysigrwydd Cyswllt Cymdeithasau pwyllgor MMW. Trwy’r person yma y daw eich Cymdeithas i wybod am Making Music ar cyfan y mae’n gynnig i’w aelodau, ac mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn lluosog iawn. Ymddengys nad yw pob Cymdeithas yn gwneud llawn ddefnydd o’i Chyswllt ac felly heb gadw i fyny gyda’r diweddaraf am y mudiad y maent yn ran ohono.

Efallai na fedr cynrychiolwyr rhai Cymdeithasau lwyddo i gael gwybodaeth at eu Cymdeithas neu at ei Phwyllgor, ac am y rheswm hwn bydd Pwyllgor MMW yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ar hyd a lled y wlad gan wahodd Cyswllt Cymdeithasau/ Cadeirydd/ Ysgrifennydd a thrysorydd y Cymdeithasau sydd yn aelodau i’n cyfarfod, siarad gyda ni, taflu brics (ac ambell dusw gobeithio) atom a darganfod pwysigrwydd y person a etholwyd gennych fel eich Cyswllt Cymdeithau Making Music i chi a’ch Cymdeithas.

Llwyddodd y cyntaf o’r cyfarfodydd hyn (bydd pedwar i gyd) a gynhaliwyd yng Nghaerdydd fis Tachwedd diwethaf gyda phresenoldeb niferus, i fod yn addysgiadol iawn i’r Cymdeithasau a oedd yn bresennol ac i Bwyllgor Cymru.

PWYLLGOR MMW

Fel y rhan fwyaf o bwyllgorau’r wlad yr ydym yn chwilio am aelodau newydd. Cynhelir cyfarfodydd y pwyllgor yn Amwythig a Llandrindod ar ddydd Sadwrn, bedair gwaith y flwyddyn. Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn cyflawni gwaith caled mewn ffordd gyfforddus, bydd cinio blasus yn rhan o weithgaredd y dydd, ac fe ad-delir costau teithio. Yr ydym yn bwyllgor bychan o ddim ond saith a hoffem gynyddu, felly ystyriwcch ymuno â ni. Darganfyddwch fwy am Making Music ar hyn y gall gyflawni dros eich Cymdeithas, helpwch ni i ffurfio a gweithredu cynlluniau ac ymunwch yn y gwaith o lunio polisi.

Gall aelodau sydd am anfon eu newyddion atom gysylltu â ni ar: gwemeistr

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

calendar

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

committee