Creu Cerddoriaeth Cymru
Pwyllgor gwirfoddol sy’n cynrychioli aelodau Cymraeg Creu Cerddoriaeth yw ‘Creu Cerddoriaeth Cymru’.
Ein nod yw darparu gwasanaeth i hyrwyddo amcanion ‘Creu Cerddoriaeth’ a chefnogi gweithgareddau ein haelodau. Rydym yn cadw mewn cysylltiad yn aml drwy gysylltiad personol, a thrwy gynhyrchu cylchlythyr a gwefan er mwyn helpu aelodau i gyflawni eu huchelgeisiau.
Mae ein haelodaeth yn cynnwys spectrwm eang o weithgareddau cerddorol amatur. Yn naturiol yng Nghymru mae canu corawl yn rhagori – mae hyn nawr yn cynnwys amrywiolion fel “barbershop” – ond mae’r amrywiaeth yn cynnwys cerddorfeydd, cymdeithasau cerddoriaeth a hyrwyddwyr cerddoriaeth. Rydym yn awyddus i weld unrhyw gyfundrefn sy’n ymwneud â cherddoriaeth amatur yn elwa a manteisio o greu cerddoriaeth.
Rydym yn trefnu gweithdai, cyfarfodydd rhanbarth a sesiynau hyfforddiant er mwyn cyflawni amcanion ‘Creu Cerddoriaeth’ ac ar hyn o bryd (diwedd 2006) rydym yn datblygu cynlluniau er mwyn gweithredu’r cynllun strategol yng Nghymru “Pum Mlynedd Pum Nod” 2006 -2010.
